Gyda’i reilffordd unigryw yn darparu’r ffordd berffaith o gyrraedd y brig ar gyfer y cystadleuwyr, a’r traciau troellog a phontydd pren, mae bron fel pe bai ‘Consti’ wedi ei ddylunio fel cwrs rasio beiciau mynydd lawr rhiw!
Bydd rhai o raswyr lawr rhiw gorau’r DU yn cystadlu trwy’r dydd ar y dydd Sadwrn, gan ddefnyddio’r bore i ymarfer a’r brif gystadleuaeth yn y prynhawn yn cynnig diwrnod llawn adloniant ar gyfer y gwylwyr. Bydd pob beiciwr yn cael ei amseru wrth reidio o’r top i’r gwaelod, a’r beiciwr fydd gyflymaf gaiff ei goroni’n enillydd – yn union fel sgïo!
Mae Caffi Consti yn noddwr i’r digwyddiad a byddant ar agor drwy gydol y digwyddiad, yn darparu brecwast, cinio, te a choffi drwy’r dydd. Bydd ymwelwyr rheolaidd Consti yn parhau i gael mynediad llawn i’r caffi a’r cyfleusterau eraill ar y bryn.
Bydd llinell derfyn y ras yn ardal ogleddol y promenâd felly dewch lawr i brofi awyrgylch agos-atoch digwyddiad beicio mynydd safonol, lle byddwch yn gweld mecanics y timau yn gweithio ar beiriannau, ein partneriaid yn arddangos eu stondinau a hefyd tîm sylwebu’r digwyddiad fydd yn rhoi newyddion o’r rasys a chyfweliadau gyda’r beicwyr drwy gydol y dydd.