Gŵyl Seiclo Aberystwyth
19–29 Mai 2018
Mae Gŵyl Seiclo Aberystwyth hefyd yn cynnwys digwyddiadau ymylol trwy gydol yr wythnos, ac wrth gwrs yn dod â holl gyffro rasys seiclo canol y dref ichi trwy dydd a gyda’r nos ar 26 Mai.
Gyda seiclwyr amlwg yn heidio i’r Canolbarth i gymryd rhan, gall ymwelwyr â’r ŵyl wylio’r holl rasio ar y lôn a’r llwybrau, ac mae’n gyfle hefyd ichi fwynhau rhai o ffyrdd cefn godidog Ceredigion ar eich beic eich hun.