Er bod ceisiadau ar gyfer Pencampwriaethau Cenedlaethol Lloyds wedi cau, rydym yn dal i chwilio am wirfoddolwyr i’n cynorthwyo ar ddydd Gwener 26 Gorffennaf rhwng 1pm a 4pm i helpu gyda’r rasys ysgolion lleol. Hwdi am ddim i bawb sy’n dod ymlaen ac yn mynychu! Cofrestrwch eich diddordeb yma trwy lenwi’r ffurflen, a byddwn mewn cysylltiad â mwy o fanylion.
Rôl Marsial – cadw seiclwyr, cerddwyr a gyrwyr yn ddiogel trwy gydol y digwyddiad.
Cofiwch ddod yn ôl i HQ ar ddiwedd eich shifft.